General Optical Council

Cymraeg

Ein pwrpas yw amddiffyn y cyhoedd drwy hyrwyddo safonau uchel o addysg, ymddygiad a pherfformiad ymhlith optegwyr. Ar hyn o bryd rydym yn cofrestru rhyw 24,000 o optometryddion, optegwyr dosbarthu, myfyrwyr optegol a busnesau optegol. Yn chwilio am optegydd yn eich ardal chi? Eisiau cwyno am ymarferwr gofal llygaid? Neu efallai eich bod newydd gymhwyso fel optometrydd ac angen cofrestru gyda ni cyn i chi ddechrau ymarfer. Beth bynnag rydych yn chwilio amdani, gallwch ddefnyddio’r wefan hon i ddod o hyd i’r wybodaeth sy’n addas i chi.

Credwn fod darpariaeth ddwyieithog yn bwysig fel mater ansawdd gwasanaeth nid fel gofyniad cyfreithiol yn unig. Wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Am fwy o wybodaeth, gweler ein Cynllun Iaith Gymraeg:

Acrobat Reader icon Cynllun Iaith Gymraeg

 

Beth ydych chi eisiau ei wneud?

Dysgu amdanom ni
Cynllun strategol
Cwyno am optegydd
Darllen am y safonau y mae’n rhaid i optometryddion ac optegwyr dosbarthu sy’n cofrestru gyda’r GOC eu bodloni
Darllen ein hadroddiad blynyddol
Chwilio’n cofrestri
Prynu lensys cyffwrdd cosmetig
Cysylltwch â ni
 

Dysgu amdanom ni

Rydym yn amddiffyn y cyhoedd drwy:

1. Gosod safonau ar gyfer addysg optegol, hyfforddiant, perfformiad ac ymddygiad;
2. Cymeradwyo’r cymwysterau sy’n arwain at gofrestriad;
3. Cyhoeddi cofrestr o weithwyr proffesiynol, myfyrwyr a busnesau gofal llygaid yn y DU; ac
4. Ymchwilio a gweithredu ynghylch pryderon am unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda ni.

Am fwy o wybodaeth am bwy ydym ni a’r hyn rydym yn ei wneud, lawrlwythwch ein llyfryn ‘Amdanom Ni’:

Acrobat Reader icon Amdanom ni - Cyngor Optegol Cyffredinol
Acrobat Reader icon Pwy sy’n rheoleiddio gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol?

Cynllun strategol 2011/12 – 2013/14

Ein swyddogaeth statudol yw 'i amddiffyn, hyrwyddo a chynnal iechyd a diogelwch' aelodau o’r cyhoedd. Rydym yn dehongli hyn yn ein cenhadaeth fel:

Sicrhau iechyd ac amddiffyniad y sawl sy’n defnyddio gwasanaethau optometryddion ac optegwyr dosbarthu

Yn ystod y tair blynedd nesaf byddwn yn canolbwyntio ar bedair blaenoriaeth strategol sef:

• gallu strategol rhagorol
• cysylltiadau cryf â rhanddeiliaid
• prosesau integredig a symleiddiedig
• diwylliant a hunaniaeth gyffredin

Lawrlwythwch ein cynllun strategol yma:

Acrobat Reader icon Cynllun strategol 2011/12 – 2013/14
 


Cwyno am optegydd

Os ydych yn dymuno cwyno am addasrwydd optegydd cofrestredig i ymarfer, mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein llyfryn, 'Sut i gwyno am optegydd':

Acrobat Reader icon Sut i gwyno am optegydd

I gwyno am optegydd cofrestredig, y cam cyntaf yw llenwi’r 'ffurflen ymchwilio', a’r ffurflen 'cael copïau o gofnodion optegol'. Mae’r ddwy ar gael i’w lawrlwytho:

Acrobat Reader icon Ffurflen Ymchwilio
Acrobat Reader icon Cael copïau o gofnodion optegol perthnasol


Darllen am y safonau y mae’n rhaid i optometryddion ac optegwyr dosbarthu sy’n cofrestru gyda’r GOC eu bodloni

Mae’r sawl sy’n cofrestru gyda ni dan ddyletswydd i ymddwyn yn broffesiynol ac yn barchus ym mhob agwedd ar eu gwaith. Cewch ddarllen am y safonau y gallwch eu disgwyl gan eich optegydd yn ein llyfryn, “Beth i'w ddisgwyl gan eich optegydd”:

Acrobat Reader icon Beth i’w ddisgwyl gan eich optegydd

Rydym yn pennu codau ymddygiad sy’n esbonio’r safonau personol a moesegol a ddisgwylir oddi wrth optometryddion, optegwyr dosbarthu, myfyrwyr a busnesau optegol.

Mae codau ymddygiad ar wahân ar gyfer unigolion cofrestredig a busnesau cofrestredig (h.y. busnesau optegol). Mae pob un yn disgrifio egwyddorion allweddol arfer da ac ymddygiad proffesiynol y mae’n rhaid i’r sawl sy’n cofrestru eu parchu. Os bydd rhywun cofrestredig yn methu â chydymffurfio â’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau a bennir yn y Cod, maent yn peryglu eu cofrestriad.

Yn sgîl ymgynghori, lansiodd y Cyngor Godau Ymddygiad newydd ar 1 Ebrill 2010.

Gallwch lawrlwytho pob Cod Ymddygiad isod:
 

Acrobat Reader icon Cod Ymddygiad
Acrobat Reader icon Cod Ymarfer ar gyfer busnesau cofrestredig


Darlle
n ein hadroddiad blynyddol

Mae ein hadroddiad blynyddol ar gael yn y Gymraeg ac yn cynnig trosolwg o’n holl waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae ar gael ar-lein yn:

2010/11
2009/10

2008/09

Mae adroddiadau blynyddol blaenorol ar gael yn www.optical.org/en/news_publications/Publications/annual_reports_archive.cfm yn Saesneg yn unig.

 

Cyhoeddiadau’r GOC mewn copi caled

I gael copïau papur o unrhyw un o’r cyhoeddiadau hyn, ysgrifennwch at ein hadran Gyfathrebu yn 41 Harley Street, Llundain, W1G 8DJ. Neu anfonwch neges e-bost at communications@optical.org
 

Chwilio’n cofrestri

Cewch chi chwilio’r Cofrestri Optegwyr am optometrydd, optegydd dosbarthu, myfyriwr optegol neu gorff corfforaethol cofrestredig. Cewch chi ddefnyddio’r cofrestri hefyd i ddod o hyd i optegydd yn eich ardal chi. Cewch chi ddarllen am bwysigrwydd gwirio bod eich optegydd wedi cofrestru drwy lawrlwytho'r llyfryn hwn:
Acrobat Reader icon Gwiriwch fod eich optegydd wedi cofrestru

Ar hyn o bryd, yn Saesneg yn unig y mae canlyniadau chwiliadau ar gael . Dewiswch yr opsiwn sy’n berthnasol i chi:

Optometrydd neu optegydd dosbarthu cofrestredig, gan gynnwys myfyrwyr
Practis optegydd yn eich ardal chi
Busnes cofrestredig (corff corfforaethol)

Darllenwch ein canllaw i chwilio’r cofrestri 


Prynu lensys cyffwrdd cosmetig
 

Mae ein taflen ‘prynu lensys cyffwrdd cosmetig’ yn esbonio’r gyfraith ynghylch gwerthu lensys cyffwrdd sero-pŵer (cosmetig), a sut i’w prynu’n ddiogel.

Lawrlwythwch y daflen yma:

Acrobat Reader icon Prynu lensys cyffwrdd cosmetig



Cysylltwch â ni

Mae’r adran hon yn dweud wrthych sut i gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Ein cyfeiriad
41 Harley Street
Llundain
W1G 8DJ

Rhifau cyswllt
Ffôn: +44 (0)20 7580 3898
Ffacs: +44 (0)20 7307 3939

E-bost
E: goc@optical.org 

Oriau swyddfa
9:00 - 17:00 Llun - Iau
9:00 - 16:45 Gwener

Dod o hyd i ni
Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwych i’n swyddfa yng nghanol Llundain. Rydym yn rhyw 5-10 munud ar droed o orsafoedd London Underground yn Oxford Circus (llinellau Bakerloo, Victoria a Central), Regent's Park (llinell Bakerloo), Great Portland Street (llinellau Circle, Hammersmith & City a Metropolitan) a Bond Street (llinellau Central a Jubilee). Mae gwasaanethau bysiau da i Oxford Street a Portland Place sydd gerllaw. Gweler www.tfl.gov.uk am fanylion.

Gweler Parkopedia am fanylion a phrisiau meysydd parcio gerllaw. Sylwch fod y swyddfa ym mharth taliadau tagfeydd Llundain ganolog.

Map o swyddfa’r GOC

(Sylwch fod y dolenni yn yr adran hon yn cysylltu â gwefannau allanol sydd ar gael yn Saesneg yn unig.)

Mynediad i’n swyddfa
Mae rhes fer o risiau gan fynedfa’n swyddfa. Os defnyddiwch gadair olwyn neu os gallai fod yn anodd i chi ddod i mewn i’r adeilad, anfonwch e-bost at Jacob Sanchez ar jsanchez@optical.org cyn i chi ymweld – byddwn yn gwneud trefniadau i chi allu cael mynediad i’r adeilad. Mae ein prif ystafell gyfarfod ar y llawr gwaelod, fel y mae toiled sy’n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn. Hefyd mae gennym gloch drws ar lefel y stryd, ar uchder sy’n gysurus i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, fel nad oes rhaid i ymwelwyr ddefnyddio’r grisiau i adael i ni wybod pan fyddant yn cyrraedd yr adeilad.





 


within Utilities