General Optical Council

Canllaw i chwilio’r cofrestri

Mae’r adran hon yn cynnwys cyngor ac arweiniad ar sut i chwilio’r cofrestri optegwyr ar-lein.

Rydym wedi ceisio gwneud y cofrestri mor hawdd â phosibl eu defnyddio. Yr wybodaeth a roddir yma yw rhestr o unigolion a chyrff corfforaethol sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Optegol Cyffredinol. Fodd bynnag, sylwch nad dyma’r gofrestr statudol lawn sydd ar gael i’w gweld yn swyddfa’r GOC. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â’n tîm cofrestru ar 020 7580 3898 opsiwn 1, neu e-bostiwch registration@optical.org
 

Beth yw’r cofrestri?
Chwilio am unigolyn
Chwilio am bractis
Chwilio am fusnes cofrestredig (corff corfforaethol)
Beth fydd canlyniadau fy chwiliad yn ei ddangos?
Beth mae’r rhif cofrestru yn ei olygu?
Beth yw arbenigedd?
Rhestr o’r cymwysterau (Saesneg)


Beth yw’r cofrestri?

Rhestr yw’r gofrestr o’r ymarferwyr unigol sy’n gymwys ac yn addas i ymarfer optometreg neu opteg dosbarthu yn y Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid i optometryddion ac optegwyr dosbarthu gofrestru gyda ni i ymarfer. Hefyd mae rhestr o fyfyrwyr sy’n addas i hyfforddi naill ai’n optometryddion neu’n optegwyr dosbarthu, a chofrestr o gyrff corfforaethol sy’n addas i gynnal busnes fel optometryddion neu optegwyr dosbarthu yn y DU.

Rydym yn gosod safonau ar gyfer addysg a chymhwysedd proffesiynol, yn ogystal â safonau ymddygiad y mae’n rhaid i bob optometrydd ac optegydd dosbarthu cofrestredig eu dilyn. Rydym yn trin methiant i gyflawni’r safonau hyn yn ddifrifol iawn. Mae unrhyw un sydd heb gofrestriad ond yn parhau i ymarfer fel optometrydd neu optegydd dosbarthu yn y DU yn torri’r gyfraith.

Gallwch ddefnyddio’r cofrestri optegwyr i chwilio am ymarferwr unigol (optometrydd, optegydd dosbarthu neu fyfyriwr), practisau optegwyr neu fusnesau cofrestredig (corff corfforaethol).
 

I chwilio am optometrydd neu optegydd dosbarthu cofrestredig, gan gynnwys myfyrwyr

  • Ewch i’r dudalen Gymraeg 
  • Cliciwch ar ‘Chwilio’r cofrestri’ 
  • Dewiswch ‘optometrydd neu optegydd dosbarthu cofrestredig, gan gynnwys myfyrwyr’ 
  • Yn y blychau perthnasol, rhowch un neu ragor o’r meini prawf canlynol: enw cyntaf (neu’r llythyren flaen yn unig), cyfenw, rhif GOC, rhyw (gwryw neu fenyw)
  • Cliciwch y botwm ‘chwilio’.

I chwilio am optegydd mewn ardal ddaearyddol benodol

  • Ewch i’r dudalen Gymraeg 
  • Cliciwch ar ‘Chwilio’r cofrestri’ 
  • Dewiswch ‘optegwyr sy’n ymarfer yn eich ardal chi’ 
  • Rhowch y cod post lle rydych am ddod o hyd i bractis. I gyfyngu neu ehangu’ch chwiliad, dewiswch y pellter o’r cod post hwnnw (mewn cilometrau) rydych am ei gynnwys o fewn ardal y chwiliad. Er enghraifft, efallai eich bod am chwilio am bractis yn BS1 3XE. Bydd y chwiliad yn dangos yn awtomatig practisau sydd uchafswm o 1km i ffwrdd o’r cod post hwnnw. I ehangu’ch chwiliad i ardaloedd cyffiniol tu allan i BS1 3XE, dewiswch y pellter priodol mewn cilometrau.
  • Cliciwch y botwm ‘chwilio’.

Sylwch: Dim ond codau post yn y DU all gael eu rhoi. Ni fydd y chwiliad yn gweithio os rhoddwch dri digid cyntaf cod post yn unig. Os ydych yn rhoi cod post llawn chwe digid, rhaid ei roi gyda bwlch yn gwahanu pob set o dri digid e.e. W1G 8DJ.

Dim ond os bydd ymarferwr cofrestredig wedi dewis yr eiddo i fod cyfeiriad cofrestredig eu practis y bydd practis yn ymddangos.
 

I chwilio am fusnes cofrestredig (corff corfforaethol)

  • Ewch i’r dudalen Gymraeg 
  • Cliciwch ar ‘Chwilio’r cofrestri’ 
  • Dewiswch ‘busnes cofrestredig (corff corfforaethol)’ 
  • Yn y blychau perthnasol, rhowch enw’r cwmni A/NEU rif GOC
  • Cliciwch y botwm ‘chwilio’.

Beth fydd canlyniadau fy chwiliad yn ei ddangos?

Bydd canlyniadau chwilio yn dangos uchafswm o 10 cofnod y dudalen. Os bydd mwy na deng cofnod sy’n cyd-fynd â’ch meini prawf chwilio, dangosir y nifer o dudalennau canlyniadau yng nghornel dde isaf y sgrin. I bori pob tudalen ganlyniadau cliciwch ar rif y dudalen unigol yn y rhestr, neu cliciwch ‘Nesaf’.

Sylwch ar y canlynol:

• Ni allwn roi rhifau ffôn na manylion cyswllt personol aelodau cofrestredig.
• Os ydych am gysylltu ag aelod cofrestredig neu bractis cofrestredig unigol dros y ffôn, dylech allu dod o hyd i rif ffôn eu practis yn eich llyfr ffôn lleol, drwy ymholiadau’r llyfr ffôn, neu mewn cyfeirlyfr ar-lein fel Scoot neu Yell.com.
• Dim ond manylion pobl sydd wedi cadw eu cofrestriad yn gyfredol y byddwn yn eu rhoi. Os bydd cofrestriad ymarferwr wedi darfod, neu os byddant wedi cael eu tynnu oddi ar y gofrestr yn barhaol, ni fydd eu manylion yn ymddangos yng nghanlyniadau eich chwiliad.
• Ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y mae canlyniadau chwilio ar gael.

Chwilio am ymarferwr unigol


Wrth chwilio’r cofrestri yn ôl cyfenw yn unig, pan fydd mwy nag un aelod cofrestredig gyda’r cyfenw penodedig, rhestrir y cofnodion yn nhrefn yr wyddor yn ôl enw cyntaf. Er enghraifft, Os ydych yn chwilio am optometrydd â’r cyfenw Smith, byddai canlyniadau’r chwiliad yn dangos Alan Smith cyn Zoe Smith.

Dangosir y manylion dilynol am bob aelod cofrestredig sy’n cyd-fynd â’ch meini prawf chwilio:
 

  • Enw llawn
  • Rhif GOC – am esboniad o ystyr y rhagddodiad, gweler beth yw ystyr y rhif cofrestru? 
  • Cymwysterau – i weld ystyr y llythrennau, gweler y rhestr o gymwysterau (Saesneg yn unig) 
  • Statws - Bydd y mwyafrif o aelodau cofrestredig yn ‘weithredol’. Mae ‘amodol’ yn awgrymu y bu’r unigolyn yn destun camau disgyblu sydd wedi arwain at amodau ar eu cofrestriad. Bydd yr amodau perthnasol yn ymddangos o dan 'Hysbysiadau addasrwydd i ymarfer'. Ni fydd rhywun sydd wedi eu hatal neu eu dileu o ganlyniad i wrandawiad disgyblu yn ymddangos ar y gofrestr
  • Lleoliad – y dref y mae cyfeiriad cofrestredig yr ymarferwr ynddi. Gallai hyn fod yn gyfeiriad cartref sy’n wahanol i gyfeiriad eu practis 
  • Dyddiad cofrestru – y dyddiad y cofrestrodd yr ymarferwr yn gyntaf gyda’r GOC. Os bydd cofrestriad yr unigolyn wedi darfod ar unrhyw adeg, hwn fydd y dyddiad y cawsant eu hadfer yn ddiweddaraf i’r gofrestr 
  • Arbenigedd – manylion unrhyw gymwysterau arbenigol a enillwyd, sy’n caniatáu i’r ymarferwr cofrestredig gyflawni dyletswyddau sy’n ychwanegol at rai optometrydd neu optegydd dosbarthu arferol. Os nad oes gan yr aelod cofrestredig unrhyw gymwysterau arbenigol ni fydd y maes hwn yn ymddangos. Dysgwch fwy yn yr adran cymwysterau arbenigedd (Saesneg yn unig) 
  • Cyfeiriad(au) practis – cyfeiriad neu gyfeiriadau practis yr unigolyn cofrestredig. Rhaid i ymarferwyr roi manylion unrhyw bractis lle maent yn gweithio am fwy nag wyth diwrnod y flwyddyn. 
  • Sylwch: Os bydd maes cyfeiriad y practis yn wag, nid oes gan yr aelod cofrestredig gyfeiriad practis parhaol. Bydd yr aelod cofrestredig a restrir naill ai’n ymarferwr locwm (h.y. yn gweithio mewn llawer o bractisau ar sail dros dro neu achlysurol) neu’n fyfyriwr. 

Chwilio am bractis mewn ardal ddaearyddol benodol

Bydd y canlyniadau’n dangos pob optometrydd, optegydd dosbarthu neu fyfyriwr cofrestredig sydd wedi darparu cyfeiriad practis cofrestredig o fewn 1km o’r cod post penodol hwnnw. Os ydych wedi ehangu’ch chwiliad i ardaloedd cyffiniol e.e. o fewn 20km o god post, bydd y canlyniadau’n dango syr holl ymarferwyr sydd wedi darparu cyfeiriad practis cofrestredig o fewn y pellter hwnnw o’ch cod post dewisol.

Dangosir y manylion canlynol ar gyfer pob aelod cofrestredig:

  • Enw’r practis 
  • Cyfeiriad llawn y practis
  • Y pellter mewn cilometrau o’r cod post a roddwyd yn eich chwiliad 
  • Map sy’n dangos lleoliad y practis a restrir – cliciwch ar ddolen ‘Google Maps’ i weld map o’r cod post hwnnw.

Chwilio am fusnes (corff corfforaethol)

  • Enw’r cwmni
  • Rhif GOC - am esboniad o ystyr y rhagddodiad, gweler beth yw ystyr y rhif cofrestru
  • Lleoliad – y dref y mae’r practis wedi ei gofrestru ynddi
  • Dyddiad cofrestru – y dyddiad y cofrestrwyd y cwmni yn y gofrestr o gyrff corfforaethol
  • Sylwch: nid yw’r gofrestr o gyrff corfforaethol yn rhestr o bob practis optegydd yn y DU. Darllenwch fwy am gyrff corfforaethol. 

Beth yw ystyr y rhif cofrestru?

Mae gan bob ymarferwr sydd wedi cofrestru gyda ni ei rif cofrestru unigol ei hun. Rydym wedi rhestru isod ystyr pob rhagddodiad, a’r dyletswyddau y mae’r gweithiwr proffesiynol rhestredig wedi cymhwyso i’w cyflawni.

Os ydynt yn ymarferwr arbenigol, efallai eu bod yn gymwys i gyflawni dyletswyddau ychwanegol (gweler Beth yw arbenigedd?)

O1 – mae’r sawl a restrir yn optometrydd cymwys. Gallant archwilio llygaid, profi golwg a rhagnodi sbectol neu lensys cyffwrdd. Gallant ddefnyddio rhai cyffuriau diagnostig, a rhoi archebion ysgrifenedig i fferyllwyr gyflenwi rhai meddyginiaethau golygol i gleifion.

D – mae’r sawl a restrir yn optegydd dosbarthu cymwys. Gallant ffitio a chyflenwi sbectol, gan gynnwys i bobl dan 16 oed, a dosbarthu cymhorthion golwg isel i gleifion â golwg rhannol.

SO – mae’r sawl a restrir yn fyfyriwr optometreg. Ni allant archwilio llygaid, profi golwg a rhagnodi sbectol neu lensys cyffwrdd ond pan fydd optometrydd cofrestredig yn eu goruchwylio.

SD – mae’r sawl a restrir yn fyfyriwr i fod yn optegydd dosbarthu. Ni allant ffitio a chyflenwi sbectol i bobl dan 16 oed neu gleifion â golwg rhannol ond pan fydd optegydd dosbarthu cofrestredig yn eu goruchwylio.

CO – mae’r cwmni a restrir yn gorff corfforaethol a all gynnal busnes mewn optometreg ac opteg dosbarthu, fel y’u diffinnir uchod.
 

Beth yw arbenigedd?

Pan fydd optometrydd neu optegydd dosbarthu wedi cofrestru gyda’r Cyngor, efallai y byddant yn dymuno ymarfer mewn meysydd sgiliau a gwybodaeth arbenigol.
Mae dod yn ymarferwr arbenigol yn golygu astudio ac ymarfer clinigol ychwanegol. Ar ôl cwblhau hyfforddiant arbenigol ac ar ôl i’w cymhwysedd gael ei asesu, rhaid i ymarferwyr gofrestru eu harbenigedd. Yna gallant gyflawni dyletswyddau sy’n ychwanegol at rai optometrydd neu optegydd dosbarthu arferol.

Ar hyn o bryd mae yna bedwar arbenigedd y gellir eu cofrestru:
 
I optometryddion
Arbenigedd cyflenwad ychwanegol
Arbenigedd rhagnodi atodol
Arbenigedd rhagnodi annibynnol

I optegwyr dosbarthu
Arbenigedd lensys cyffwrdd
 


within Utilities